SL(5)230 - Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) (Diwygio) 2018

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006 ("Rheoliadau 2006").

Mae Rhan 2A o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn nodi cyfundrefn ar gyfer adnabod tir halogedig a’i adfer.  Gwnaeth Rheoliadau 2006 ddarpariaeth i Ran 2A fod yn gymwys, gydag addasiadau, at ddiben ymdrin â niwed y gellir ei briodoli i unrhyw ymbelydredd sy’n perthyn i unrhyw sylwedd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhan o becyn o fesurau i drosi Cyfarwyddeb y Cyngor 2013/59/Euratom dyddiedig 5 Rhagfyr 2013 sy’n gosod safonau diogelwch sylfaenol ar gyfer diogelu rhag y peryglon sy’n codi o ddod i gysylltiad ag ymbelydredd ïoneiddio ("y Gyfarwyddeb").

Mae’r Rheoliadau hyn yn trosi rhai o ofynion Erthygl 73(1) o’r Gyfarwyddeb yn ogystal â gwneud diwygiadau i adlewyrchu diffiniadau newydd yn y Gyfarwyddeb.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd tri phwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

Mae'r rheol 21 diwrnod yn ei gwneud yn ofynnol bod 21 diwrnod calendr yn mynd heibio rhwng: (a) y dyddiad y gosodir offeryn statudol sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol gerbron y Cynulliad, a (b) y dyddiad y daw'r offeryn statudol i rym. Daw'r Rheoliadau hyn i rym 19 diwrnod ar ôl eu gosod gerbron y Cynulliad, felly mae'r rheol 21 diwrnod yn cael ei thorri.

Rydym yn nodi'r achos hwn o dorri'r rheol ac yn diolch i Julie James AC, Arweinydd y Tŷ, am yr esboniad a roddir yn ei llythyr dyddiedig 18 Mehefin 2018. Rydym yn cytuno mai effaith gyfyngedig y bydd yr achos hwn o dorri'r rheol yn ei chael ar Gymru, gan nad oes tir a halogwyd yn ymbelydrol wedi'i nodi yng Nghymru.

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

Rydym yn nodi eglurder, defnyddioldeb a thryloywder y Memorandwm Esboniadol, a pha mor ddefnyddiol y mae wedi bod i'r Pwyllgor wrth graffu'r Rheoliadau hyn.

3. Rheol Sefydlog 21.3(iv) – mae'n rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn amhriodol

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi'r Gyfarwyddeb ar waith (h.y. Cyfarwyddeb y Cyngor 2013/95 Euratom). Fodd bynnag, dylai fod wedi cael ei roi ar waith erbyn 6 Chwefror 2018. Rydym yn croesawu'r cyfeiriad at yr oedi yn y Memorandwm Esboniadol a'r esboniad ynglŷn â sut y mae'r rhan fwyaf o ofynion y cyhoedd yn ymwneud â datguddiad y Gyfarwyddeb eisoes wedi'u gweithredu mewn deddfwriaeth ddomestig flaenorol. Rydym hefyd yn nodi'r effaith gyfyngedig y gallai'r oedi ei chael ar Gymru yn rhinwedd y ffaith nad oes dim tir a halogwyd yn ymbelydrol wedi'i nodi yng Nghymru.

Serch hynny, nodwn i'r terfyn amser gael ei golli o 4 mis ac rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gadarnhau a yw wedi bod yn gohebu â'r Comisiwn Ewropeaidd mewn perthynas â'r oedi ac a oedd posibilrwydd realistig o gwbl y gallai'r oedi hwn fod wedi arwain at achos yn erbyn y Deyrnas Unedig am dorri cyfraith Ewropeaidd.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

O ran statws Euratom yn y DU, mae'r Bil Trefniadau Diogelwch Niwclear (sy'n aros am Gydsyniad Brenhinol ar hyn o bryd) yn darparu ar gyfer trefniadau diogelwch niwclear ar ôl i'r DU adael Euratom.

Mae'r Bil Trefniadau Diogelwch Niwclear yn darparu, ymhlith pethau eraill, fod yn rhaid i Lywodraeth y DU wneud cais i'r Cyngor Ewropeaidd am i drefniadau Euratom perthnasol barhau i gael effaith yn y DU ar ôl y diwrnod ymadael os na wnaed trefniadau digonol erbyn 1 Mawrth 2019 mewn cysylltiad â chytundebau newydd rhwng y DU a phartïon rhyngwladol eraill sy'n ymwneud â threfniadau diogelwch niwclear ac ynni atomig.

O dan yr amgylchiadau hynny, byddai Llywodraeth y DU yn gofyn am i drefniadau Euratom barhau i gael effaith yn y DU ar ôl y diwrnod ymadael hyd nes y byddai trefniadau digonol yn cael eu gwneud mewn cysylltiad â'r cytundebau rhyngwladol newydd.

Ymateb y Llywodraeth

Ymateb i’r Pwyntiau Craffu ar sail Rhinweddau

Pwynt 3.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaethau gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch yr oedi cyn trosi’r rhannau o’r Gyfarwyddeb Safonau Diogelwch Sylfaenol sy’n ymwneud â thir a halogwyd yn ymbelydrol. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod mewn cysylltiad â’r Comisiwn ynghylch trosi’r Gyfarwyddeb yn ehangach, ac nid ystyrir ei bod yn rhesymol debygol y bydd achos torri cyfraith Ewropeaidd yn cael ei ddwyn yn erbyn Aelod-wladwriaeth y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

21 Mehefin 2018